Gwefrwyr Cerbydau Trydan ym Mythynnod Benar
Gwnewch eich gwyliau nesaf yn fwy ecogyfeillgar drwy archebu arhosiad yn un o’n bythynnod – mae gan bob un ohonynt bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Gallwch ymlacio gan wybod y bydd eich car yn cael ei wefru’n llawn ac yn barod i fynd am yr antur nesaf tra ar wyliau.
Ydych chi wedi gweld ein bythynnod ar wefannau eraill?
Arbed 25% ar wefru cerbydau gyda’r cod: EV25
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Pam bythynnod gyda phwyntiau gwefru ceir trydan?
Yma ym Mythynnod Benar, deallwn fod cael eich car eich hun gyda chi yn un o’r manteision niferus wrth ddewis mynd ar wyliau i Gymru. Rydym am ei gwneud hi’n hawdd i’n gwesteion deithio mewn ffordd sy’n rhyddhau llai o garbon ac rydym yn deall pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i fwthyn â gwefrydd cerbyd.
Pa fath o wefrwyr cerbydau sydd gennych chi?
Ein gwefrwyr cerbyd 7 cilowat a gynhyrchir gan Project EV
Lle mae’r gwefrwyr?
Y tu allan i’ch bwthyn yn eich lle parcio preifat. Rydych yn sicr o’ch gwefrydd eich hun – nid oes gan neb arall fynediad iddo.
Sut fydda i’n cychwyn y gwefrydd?
Fe welwch gyfarwyddiadau y tu mewn i’ch bwthyn. Yn syml, rydych yn cysylltu eich car, sganiwch y cod QR a dechrau gwefru eich cerbyd.
A oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnydd?
Dim ond y gwesteion sydd wedi archebu’r bwthyn sy’n cael defnyddio’r gwefrydd ond, ar wahân i hynny – nagoes – gallwch chi ddefnyddio’r gwefrydd cymaint ag y dymunwch.
Faint fyddaf yn ei dalu?
Rydym yn adolygu ein ffioedd yn rheolaidd pan fydd cyfraddau ynni busnes yn newid ond ar hyn o bryd rydym yn codi ffi cysylltiad unigol o £1 ac yna 65c y kWh. Defnyddiwch y cod arbennig uchod a byddwn yn gostwng y pris kWh 25%. Rydym yn eithaf sicr bod hynny’n golygu mai ni yw’r lle rhataf yn yr ardal i wefru cerbyd ac, wrth gwrs, rydych chi’n sicr o’ch gwefrydd eich hun.
Sut fydda i’n talu am y trydan?
Bydd y gwefrydd yn rhoi gwybod i ni faint o drydan rydych wedi’i ddefnyddio. Pan fyddwch wedi cwblhau eich sesiwn gwefru terfynol, cyn dychwelyd adref, byddwn yn anfon anfoneb y gallwch ei dalu gyda cherdyn credyd.
Barod i archebu’ch gwyliau?
Cofiwch, mae gan bob bwthyn gwefrydd cerbyd felly archebwch heddiw…